MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,452 - £22,940 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technegydd Technoleg Gwybodaeth a Safle, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £21,452 - £22,940 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION UWCHRADD

YSGOL GLAN Y MÔR, PWLLHELI

(Cyfun 11 - 16: 491 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi 2024.

TECHNEGYDD TECHNOLEG GWYBODAETH A SAFLE

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.

(40 wythnos y flwyddyn sef tymor yr Ysgol, diwrnodau hyfforddiant mewn swydd a 5 diwrnod yn ystod y gwyliau).

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Prif dyletswyddau y Technegydd bydd sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh yr ysgol ac mewn cydweithrediad â TG Gwynedd yn cynorthwyo gyda'r ochr weinyddol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (sef £21,452 - £22,940 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda Guto Wyn, Pennaeth Ysgol Glan y Môr ar pennaeth@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD LLUN, 15 GORFFENNAF, 2024.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma Dydd Mercher, 17 o Orffennaf 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithle Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

( This is an advertisement for a Technology Technician at Ysgol Glan y Môr, Pwllheli for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential)

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

Profiad
  • O weithio gyda systemau technoleg gwybodaeth

Cymwysterau

Yn Hanfodol:
  • Yn rhugl ddwyieithog

Yn ddymunol:
  • Unrhyw Hyfforddiant gan Gwmni Microsoft.
  • Cymhwyster/au mewn Technoleg Gwybodaeth.

Gwybodaeth / Sgiliau
  • Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir.
  • Yn gydwybodol a brwdfrydig.
  • Yn barod i gydweithio a chynnig arweiniad i eraill.
  • Yn barod i gydweithio â disgyblion.
  • Yn abl i weithio'n annibynnol.
  • Yn weinyddwr trefnus.
  • Y gallu i osod cyfrifiaduron/gliniaduron/chromebooks ac ipads.
  • Byddai gwybodaeth am Raglenni Windows yn ddymunol.
  • Y gallu i ddatrys problemau cyfrifiadurol yn ddymunol.
  • Byddai dealltwriaeth a phrofiad o Microsoft Office 365 yn ddymunol ond nid yn hanfodol


  • Swydd Ddisgrifiad

    Rheolwr llinell:

    Y Rheolwr Busnes

    Oriau gweithio:

    37 awr yr wythnos . Rhoddir ystyried i ymgeiswyr sydd yn awyddus i weithio yn rhan amser neu yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

    Graddfa gyflog:

    Pwyntiau 7-11 ar raddfa cyflog gweithwyr llywodraeth leol.

    Pwrpas y swydd:

    Bydd y Technegydd yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh yr ysgol ac mewn cydweithrediad â TG Gwynedd yn cynorthwyo gyda'r ochr weinyddol.

    Dyletswyddau:
  • Rhagweld problemau meddalwedd a chaledwedd a'u datrys a datrys problemau sy'n codi'n ddirybudd.
  • Cynnal a chadw holl offer TGCh yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch y rhwydwaith rhag feirws ac ati a mynediad heb ganiatâd.
  • Cyfrifoldeb am drefnu hawliau mynediad i'r rhwydwaith a monitro'r defnydd ohoni.
  • Cyfrifoldeb am gadw copïau wrth gefn o ddata disgyblion a staff yn rheolaidd.
  • Gosod ac uwchraddio meddalwedd ar systemau'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli systemau drysau'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli system teledu cylch cyfyng yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli defnydd/mynediad at y llungopïwr.
  • Cadw cofnod o holl offer TGCH yr ysgol.
  • Cadw cofnod o holl feddalwedd a thrwyddedau'r ysgol.
  • Cynorthwyo, cefnogi a chyfarwyddo athrawon unigol.
  • Cyfrifoldeb penodol am ystafelloedd cyfrifiadurol yr ysgol.
  • Cydweithio â TG Gwynedd a'r Rheolwr Busnes yr ysgol pan fydd angen sylw i system TGCH gweinyddol yr ysgol.
  • Cydweithio gyda holl staff yr ysgol i gynnal awyrgylch ddiogel gynhaliol i ddisgyblion dros amseroedd egwyl a chinio'r disgyblion.
  • Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu'r Rheolwr Busnes.


    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi