MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £20,915 - £22,365 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Presenoldeb a Lles - Ysgol Glan y Môr

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £20,915 - £22,365 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL GLAN Y MÔR, PWLLHELI

(Cyfun 11 - 16: 491 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi 2024.

Swyddog Presenoldeb a Lles

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.

(39 wythnos y flwyddyn sef tymor yr Ysgol a diwrnodau hyfforddiant mewn swydd).

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Prif dyletswydd y swydd bydd gweithio'n agos gyda staff, disgyblion a rhieni i sicrhau lles a phresenoldeb da disgyblion yr ysgol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (sef £20,915 - £22,365 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda Guto Wyn, Pennaeth Ysgol Glan y Môr ar pennaeth@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD LLUN, 15 GORFFENNAF, 2024.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma Dydd Mercher, 17 o Orffennaf 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd.

( This is an advertisement for a Attendance and Welfare Officer at Ysgol Glan y Môr, Pwllheli for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

Manyleb Person

Nodweddion Personol

■ Yn gallu gweithio a chyfrannu'n effeithiol fel rhan o dîm
■ Gallu cynllunio, blaenoriaethu a chyflawni i amserlenni tynn
■ Hunan gymhelliant, brwdfrydig ac ymrwymedig
■ Meddwl ymholgar a dadansoddol.

■ Yn gallu datblygu atebion creadigol cyflym i broblemau wrth iddynt godi.

Cymwysterau a Hyfforddiant Perthnasol

■ TGAU neu gyfwerth mewn Cymraeg a Saesneg.
Profiad o arwain tîm.

■ Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus
■ Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol perthnasol
■ Cymhwyster rheoli.

Profiad Perthnasol

■ Ymwybyddiaeth o faes Ysgolion

■ Profiad o gasglu a dehongli data i gynhyrchu adroddiadau
■ Profiad ym maes lles a phresenoldeb

Sgiliau a gwybodaeth Arbenigol

■ Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cadarn iawn
■ Y gallu i flaenoriaethu a chynllunio gwaith
■ Sgiliau cyfrifiadurol cadarn

■ Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth
■ Sgiliau cyfrifiadurol cadarn iawn, gyda gwybodaeth rhagorol o SIMS (presenoldeb)

Anghenion Ieithyddol

■ Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
■ Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
■ Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r
iaith)

■ Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg
■ Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r
swydd.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD - SWYDDOG PRESENOLDEB A LLES

Pwrpas Cyffredinol y Swydd:

Dan arweiniad yr UDA, gweithio'n agos gyda staff, disgyblion a rhieni i sicrhau lles a phresenoldeb da disgyblion yr ysgol. O dan arweiniad yr UDA, sicrhau defnydd llawn o bresenoldeb yn SIMS a chywirdeb y data ar gyfer holl disgyblion yr ysgol. Sicrhau bod data presenoldeb yr ysgol yn cael ei gadw'n gyfredol, yn gyfrinachol ac yn ddiogel yn unol â rheoliadau GDPR.

O dan arweiniad yr UDA, cysylltu gyda rhieni disgyblion bregus a disgyblion gyda phresenoldeb isel. Cysylltu dydd i ddydd gyda rhieni disgyblion sydd yn absennol.

Hybu presenoldeb da a lles y disgyblion.

Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:

Presenoldeb a Lles:
  • Sicrhau bod cofrestrau yn gyflawn erbyn diwedd y diwrnod.
  • Cyfathrebu gyda rhieni disgyblion sydd yn absennol yn ddyddiol.
  • Adrodd ar bresenoldeb i'r Uwch Dim Arwain yn wythnosol.
  • Cyfarfod a chydweithio gyda swyddogion lles yr awdurdod i adnabod a chyfeirio disgyblion sydd angen sylw o ran lles a phresenoldeb.
  • Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol ar faterion sy'n ymwneud â lles disgyblion (e.e. Gwasanaethau Cymdeithasol, Tîm o Amgylch y Teulu, ...)
  • Derbyn a chofnodi gwybodaeth am absenoldebau o ddydd i ddydd.
  • Paratoi llythyrau absenoldeb dan arweiniad yr UDA.
  • Gweinyddu trefn gwobrwyo presenoldeb y flwyddyn dan arweiniad yr UDA
  • Gwneud ymweliadau cartref achlysurol i gasglu disgyblion ar gyfer arholiadau/profion/asesiadau neu fel rhan o weithdrefnau gwella presenoldeb yr ysgol.

Cefnogi Cynhwysiad:
  • Paratoi a phrosesu dogfennaeth ar gyfer cyfarfodydd lles a phresenoldeb gan gynnwys gweinyddu'r trefniadau drwy wahodd yr aelodau perthnasol, cofnodi mewn cyfarfodydd a ffeilio.
  • Ymateb i ymholiadau cyffredinol gan ddisgyblion, rhieni, staff ac asiantaethau allanol yn broffesiynol, hwyliog, cyfeillgar, cefnogol ac effeithiol.
  • Tasgau rheolaethol a gweinyddol cyffredinol yn ddyddiol yn ôl yr angen dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth.
  • Cadw gwybodaeth presenoldeb SIMS.

Cyfathrebu:
  • Cyfathrebu gyda rhieni yn uniongyrchol i drafod materion lles a phresenoldeb.
  • Cydweithio gyda swyddogion lles yr awdurdod i gefnogi gwella presenoldeb.
  • Cyfathrebu gydag asiantaethau allanol yn ôl y galw.


Gwaharddiadau a Chyfnodau Absenoldeb:
  • Cydweithio gyda'r tîm lles i gasglu gwaith ar gyfer y disgyblion sydd yn absennol o'r ysgol am gyfnodau estynedig neu ar waharddiad tymor penodol, a'i anfon adref, a sicrhau bod y gwaith a osodwyd yn cael ei ddychwelyd i'r athrawon yn dilyn absenoldeb.
  • Cadw cofnod o'r gwaith a anfonir.
  • Ysgrifennu llythyrau gwaharddiad dan arweiniad yr UDA.
  • Cofnodi pob gwaharddiad yn SIMS.
  • Trefnu paneli o'r Corff Llywodraethol fel bo'r angen gyda'r clerc.

Meddygol:
  • Ymateb i ddisgyblion/staff sydd wedi eu hanafu neu sy'n wael, a threfnu iddynt fynd adref neu drefnu i achosion brys fynd i'r ysbyty.
  • Cadw rhestrau cyflyrau meddygol disgyblion yn gyfredol a chodi ymwybyddiaeth y staff.

Arall:
  • Gweithio'n adeiladol, rhagweithiol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, fel y bydd eu hangen yn rhesymol gan y Pennaeth ac sydd yn gyson gyda'r lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y swydd.

Amgylchiadau Arbennig:

e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
  • Bydd unrhyw oriau ychwanegol a weithir dros 37 awr yn cael eu talu ar amserlen.

Sut i Ymgeisio: Ffurflen ar wefan y Sir

Dyddiad Cau: Hanner dydd, 15/7/2024

Dyddiad Cyfweld: 17/7/2024

Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi