MANYLION
  • Lleoliad: Place of work to be discussed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £45,642.45-£47,330.98 y flwyddyn (Graddfa UG 2-3 Darlithydd AB, Cymru) yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Mentor Cymorth Dysgu ac Addysgu

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £45,642.45-£47,330.98 y flwyddyn (Graddfa UG 2-3 Darlithydd AB, Cymru) yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r Rheolwr Dysgu ac Addysgu a mentoriaid y meysydd rhaglen ym maes Addysg Bellach, Addysg Uwch a Dysgu Oedolion yn y Gymuned i gefnogi staff addysgu ledled y Grŵp gyda'u haddysgeg dysgu ac addysgu a'u datblygiad proffesiynol. Pwrpas y swydd yw cefnogi datblygiad parhaus o ran dulliau addysgu effeithiol a diddorol yn ogystal â chefnogi datblygiad safonau proffesiynol y staff dysgu ac addysgu.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant ar ddefnyddio systemau Dysgu ac Addysgu a systemau Ansawdd y Grŵp yn effeithiol ac yn cefnogi rheolwyr ansawdd y Grŵp i ymgynghori ar systemau ansawdd a'u datblygu.

Rhoddir ystyriaeth i Secondiad

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/284/24

Cyflog
£45,642.45-£47,330.98 y flwyddyn (Graddfa UG 2-3 Darlithydd AB, Cymru) yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Lleoliad gwaith i'w drafod

Hawl gwyliau
  • 46 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod wedi cau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
23 Gorff 2024
12:00 YH(Ganol dydd)