MANYLION
  • Lleoliad: Pontypool, Monmouthshire, NP4 0AH
  • Testun: Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Cefnogi a Chyflawni Dysgu (Lefel 4)

Cyngor Sir Fynwy
DISGRIFIAD O’R SWYDD:
• Gweithio o dan gyfarwyddyd ac o fewn system oruchwylio y cytunwyd arni gan athro cymwysedig, i ymgymryd â gwaith a chyfrifoldebau yn unol â safonau'r Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion (TDA) ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU).

• Cyfrannu at gynllunio, paratoi a chyflwyno gwaith y cytunwyd arno a rhaglenni cymorth i unigolion neu grwpiau o ddisgyblion.

• Hyrwyddo dysgu disgyblion, gan gynnwys gweithio gyda dosbarthiadau cyfan lle nad yw'r athro penodedig yn bresennol.

• O dan system gyfarwyddo a goruchwyliaeth y cytunwyd arni, cyflawni gwaith cyflenwi CPA wedi'i amserlennu ar gyfer athrawon o fewn lefelau staffio y cytunwyd arnynt ac asesiadau risg priodol.

• Defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad yn unol â pholisi a gweithdrefnau'r ysgol, sy'n cyfrannu at amgylchedd dysgu pwrpasol i ddisgyblion sy'n briodol i'w hoedran a'u hanghenion dysgu ychwanegol.

• Bod yn gyfrifol am ddyrannu dyletswyddau a hyfforddi Cynorthwywyr Addysgu eraill.

• Hyrwyddo cynhwysiant pob disgybl, gan sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd cyfartal i ddysgu a datblygu gan helpu'n arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu gan gynnwys anawsterau corfforol, emosiynol ac ymddygiad.

• Bod yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu lles plant a phobl ifanc o fewn yr ysgol.

JOB REQUIREMENTS
Gweler atodiad