MANYLION
  • Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 4HD
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol

Cyngor Sir Fynwy
Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Helpu’r Cogydd i baratoi prydau a gyda’r gwasanaeth bwyd.

• Ymgymryd â’r ystod lawn o ddyletswyddau’r cogydd pan fydd y Cogydd yn absennol gan gynnwys yr holl ddyletswyddau gweinyddol a’r gweithdrefnau.

• Yn ymgymryd â dyletswyddau fel cogydd mewn unrhyw leoliad pan fydd angen, o fewn pellter rhesymol, pan fydd y Cogydd yn absennol o’r gwaith. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn talu am unrhyw gostau teithio sydd yn gyfystyr gyda’r gost o deithio o gartref i’r lle gwaith newydd ac o’ch cartref i’r hen le gwaith, a hynny yn seiliedig ar gyfraddau cludiant cyhoeddus.

• Meddu ar Hylendid Bwyd Lefel 3 CIEH (byddwn yn cynnig hyfforddiant os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn).

• Gweithio fel rhan o dîm arlwyo Sir Fynwy ar unrhyw safle addysgol.

• Mynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddi fel sydd angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio gyda’r gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn Llawlyfr Gweithdrefnau Arlwyo Sir Fynwy o ran safonau ansawdd.

• Cydymffurfio gyda rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

• Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

JOB REQUIREMENTS
Sut fyddwn yn gwybod os mai chi yw’r person cywir ar gyfer y rôl hon? Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch wedi arddangos y canlynol:-

• Profiad blaenorol o weithio mewn cegin.

• Y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda’r holl staff a’r rheolwyr, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

• Profiad blaenorol o gadw cofnodion

• Hyblygrwydd a’r parodrwydd i weithio mewn safleoedd addysgol gwahanol.

• Ymroddiad at ennill cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn yn barod (byddwn yn darparu hyfforddiant llawn);

• Y gallu i weithio fel tîm.

• Parodrwydd i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sydd yn briodol i’r rôl.

• Parodrwydd i ddilyn gweithdrefnau a pholisïau arlwyo Sir Fynwy, a’u gweithredu’n briodol.

• Parodrwydd i ddilyn gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth.

• Parodrwydd i gydymffurfio gyda pholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor gan gynnwys cwblhau hyfforddiant priodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o hyn.

• Y Gymraeg yn Ddymunol
Gall fod angen i chi ddysgu neu wella eich sgiliau presennol drwy fynychu hyfforddiant Cymraeg i staff a gyllidir gan y Cyngor. Gweithredir hyn os yw’r angen yn codi am sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y swydd.