MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £12,593.97 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Tymor yn Unig, Dolgellau

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £12,593.97 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)

Cefnogi dysgwyr i'w galluogi i wneud y gorau o'u potensial ac unrhyw gyfleoedd dysgu a gynigir iddynt. Cefnogi a chynorthwyo staff addysgu gyda gofal academaidd, cymdeithasol a bugeiliol dysgwyr.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o diwtoriaid coleg, yn arbenigwyr pwnc ac yn arbenigwyr Cefnogi dysgu a dysgwyr. Rhoddir pob anogaeth i ddangos menter ac i weithio fel rhan o dîm. Bydd disgwyl cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi staff perthnasol a datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fod mor effeithiol â phosibl yn y rôl hon.

Bydd disgwyl i Gynorthwywyr Cefnogi Dysgu gyflawni eu dyletswyddau yn unol â Chanllawiau Cynorthwywyr Cefnogi Dysgu Grŵp Llandrillo Menai ac o fewn System Ansawdd y Coleg.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/280/24

Cyflog
£12,593.97 y flwyddyn (sy'n cynnwys hawl gwyliau)

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
Hawl gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog

Patrwm gweithio
26 awr yr wythnos am 34 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y Coleg)

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
18 Gorff 2024
12:00 YH(Ganol dydd)