MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Treowen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £23,500 i £23,893 y flwyddyn ar gyfartaledd £ 12.18 i £12.38 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Treowen)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2

25 awr yr wythnos (9yb i 3yp, un awr i ginio), 39 wythnos y flwyddyn (i gynnwys diwrnodau HMS)

Contract cyfnod penodol tan 31 ain Awst 2025

Ysgol gynradd gymunedol gyfeillgar yw Ysgol Treowen sy'n darparu ar gyfer disgyblion o'r dosbarth derbyn i flwyddyn chwech.

Ceir lleoliad cyn-ysgol yn yr ysgol hefyd.

Mae'r ysgol o fewn pellter cerdded i ganol y dref.

Mae Tîm Treowen wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n holl ddisgyblion.

Credwn yn natblygiad yr unigolyn cyfan, er mwyn i bob plentyn gael pob cyfle i gyflawni eu potensial yn unol â'n gweledigaeth

"Tyfu, Cyrraedd Rhagoriaeth Gyda'n Gilydd"

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd addysgu ymroddedig, sy'n gallu dangos ymrwymiad i'n gwerthoedd a'n amcanion, chwaraewr tîm a all hefyd ddangos menter, ac sy'n awyddus i gefnogi lles disgyblion a datblygu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Mae angen gwybodaeth a phrofiad o ddarparu ystod o ymyriadau llythrennedd a rhifedd.

Byddai dealltwriaeth o Ffynnu neu ELSA a/neu allu i siarad Cymraeg i'w groesawu, ond nid yn hanfodol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a sicrhewch fod ceisiadau'n adlewyrchu'r gofynion.

Ceisiadau i'w gwneud drwy wefan Cyngor Sir Powys.

Dyddiad cau: Dydd Iau 11 eg Gorffennaf

Rhestr Fer: Dydd Gwener 12 fed Gorffennaf

Cyfweliadau: Dydd Iau 18 fed Gorffennaf

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS