MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Ieithoedd Tramor Modern (Sbaeneg) - Ysgol Bro Dinefwr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2602
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2027
Lleoliad:
Llandeilo
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
32.5
Dewch i ymuno â'n tîm
Athro Ieithoedd Tramor Modern (Sbaeneg)
Math o gontract - Mamolaeth ">Cyflog - PRC/URC ">Oriau - Llawn amser ">Dyddiad cychwyn - 13 Ebrill 2026
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Ieithoedd Tramor Modern deinamig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm profiadol, gyda ffocws penodol ar ddysgu Sbaeneg hyd at Safon Uwch. Mae'r swydd hon yn gofyn (yn ddelfrydol er nid yn hanfodol) am y gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymgysylltuol i bob myfyriwr.
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn ysgol categori Dwyieithog (T3) wedi'i lleoli wrth ymyl tref Llandeilo, ar lannau'r afon Tywi a yng nghysgod Castell Dinefwr. Mae'n ysgol o 1100 o ddisgyblion sy'n darparu addysg i ddisgyblion o flwyddyn 7 - 13 yn ogystal ag uned Awtistiaeth arbenigol i 42 o ddisgyblion. Darperir addysg i ddisgyblion mewn lleoliad gwledig ac ar safle newydd sy'n cynnwys adnoddau dysgu rhagorol. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig addysg arloesol gan ddefnyddio ein canolfan Addysg Awyr Agored 'Natur', sy'n ardal o tua cyfer a hanner o ardd, llwyfan awyr agored, twnelai poly, llyn, a llety i'n ainfeiliaid. Ein nod yw creu amgylchedd sydd yn un cymuned, gyda pob cyfle a dim terfyn.
Rydym yn awyddus i benodi athro/awes sy'n medru datblygu a darparu cynlluniau gwersi diddorol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn addas i arddulliau dysgu amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau dysgu arloesol i feithrin chwilfrydedd a gwytnwch ymhlith myfyrwyr gan ddarparu adborth adeiladol a chymorth i fyfyrwyr i herio eu dealltwriaeth a'u meistroli ei defnydd o ieithoedd tramor modern. ">Fel adran flaengar, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio'n agos â'r tîm Ieithoedd Tramor Modern i greu profiadau dysgu amrywiol, gyda ffocws arbennig ar ddatblygu cwricwlwm cyffrous ac ymgysylltiol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-9, yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru. ">Mae ein hadran yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddysgu ieithoedd, gyda Sbaeneg yn chwarae rhan allweddol yn y cynnig hwn. Bydd yr athro a benodir yn gyfrifol am addysgu Sbaeneg ar lefel TGAU hyd at Safon Uwch, gan sicrhau bod gwersi'n ysbrydoledig ac yn heriol, a pharatoi disgyblion i lwyddo mewn arholiadau allanol a chyrraedd safonau uchel o gyrhaeddiad. ">Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar:
- Gradd Baglor, gydag arbenigedd yn y maes Ieithoedd Tramor (Sbaeneg)
- Statws Athro Cymwysedig (QTS)
- Profiad o ddysgu Ieithoedd ar lefel uwchradd hyd at safon Lefel A.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'r staff sy'n cynnwys rhaglen ddatblygiad personol eang a chynhwysfawr, cyfleodd i gyd-weithio yn agos gyda chymheiriaid o fewn a thu hwnt i'r maes pwnc a chefnogaeth adrannol i rannu adnoddau dysgu a datblygu cynlluniau newydd. Ymfalchïwn wrth gynnig amgylchedd gefnogol a ddatblygol gydag ethos o rannu arferion llwyddiannus er budd yr holl gymuned. ">Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â'r Pennaeth Mr Eirian Davies am drafodaeth anffurfiol (Ffôn 01558 824800) neu drwy e-bost: eirian.davies@brodinefwr.org.uk . ">Dyddiad cau: 4 Ionawr 2026 23:55 ">Cyfweliad, wythnos sy'n cychwyn: 12 Ionawr 2026 ">Dyddiad Cychwyn: 13 Ebrill 2026
Disgrifiad Swydd:
YBD Athro Pwnc - Subject Teacher.pdf - 228KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
12 Ionawr 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 04/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.