MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £20,076 - £20,409 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 1 / Croesawydd (Llawn Amser) - Ysgol Ardudwy, Harlech

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £20,076 - £20,409 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION UWCHRADD

YSGOL ARDUDWY

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 324 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi 2024.

SWYDDOG CEFNOGI YSGOL LEFEL 1/ CROESAWYDD (LLAWN AMSER)

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio wythnos yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS2 pwyntiau 3-4 (£20,076 - £20,409 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Fiona Williams, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD IAU, 18 O GORFFENNAF, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(The above is an advertisement for a full-time term-time School Support Officer/ Receptionist at Ysgol Ardudwy, Harlech, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

DYLETSWYDDAU: Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb eithriad, weithredu yn unol â pholisïau'r ysgol.

Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau dyletswyddau croesawydd a thasgau gweinyddol. Bydd deilydd y swydd yn cynnig gwasanaeth gweinyddol i'r Pennaeth, Dirprwy a'r Pennaeth Cynorthwyol ynghyd â chefnogi'r Swyddog Gweinyddol. Mae'r dyletswyddau'n amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod.

Nodir prif ddyletswyddau'r swydd fel â ganlyn:
  • Tasgau Croesawydd:
    • cyfrifoldeb am dderbynfa'r ysgol a chroesawu ymwelwyr i'r ysgol gan sicrhau eu bod yn

    cael sylw prydlon ac yn teimlo'n gartrefol
    • gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i'r ysgol un ai ar y ffôn neu'n bersonol
    • derbyn a throsglwyddo unrhyw negeseuon ffôn / e-byst
    • cynnal trefn yn y swyddfa gan ei gadw'n daclus ar bob achlysur
    • gweithredu system diogelwch mynediad i'r ysgol
    • cynorthwyo staff a disgyblion sydd yn ymweld â'r swyddfa
    • cyfrifoldeb am fonitro'r cyfrif e-bost cyffredinol yr ysgol gan ymateb, anfon ymlaen a chwynnu negeseuon fel yn briodol

    2. Presenoldeb:
    • defnyddio'r modiwl presenoldeb yn y system SIMS i gynnal cofnodion cywir am bresenoldeb ac absenoldeb disgyblion yn y bore a'r prynhawn
    • cysylltu â chartrefi disgyblion yn ôl y galw pan fydd disgybl yn absennol drwy'r system SchoolComms neu'r ffôn
    • os oes pryder am ddisgybl sydd wedi gadael tir yr ysgol cysylltu â'r cartref / heddlu ar ôl trafod gyda'r Uwch Dim Rheoli (UDRh)
    • os oes disgyblion yn achos o bryder, hysbysu aelod o'r UDRh a'r Swyddog Lles
    • paratoi adroddiadau ar bresenoldeb/absenoldebau yn ôl yr angen
    • anfon negeseuon drwy e-bost/testun i rieni
    • dosbarthu'r cofrestrau i'r tiwtoriaid dosbarth ar ganiad y larwm tân ar y cyd gyda'r Swyddog Gweinyddol

    3. Adnoddau
    • darparu gwasanaeth llungopïo a pharatoi adnoddau ar gais staff yr ysgol
    • darparu gwasanaeth llungopïo a pharatoi adnoddau ar gyfer asiantaethau ac ymwelwyr i'r ysgol
    • darparu gwasanaeth lamineiddio adnoddau i staff

    4. Yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol:
    • cyfrifoldeb am bost yr ysgol - dosbarthu post sy'n cyrraedd yr ysgol a ffrancio, cofnodi a phostio'r post anfonir
    • derbyn nwyddau archebwyd i'r ysgol, eu dosbarthu a throsglwyddo'r derbyneb nwyddau i'r Rheolwr Busnes.
    • gwneud trefniadau cludiant ysgol ar gyfer disgyblion ac ar gyfer ymweliadau a gweithgareddau addysgol
    • ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill, gan gynnwys galwadau i rieni, trefnu cyfarfodydd gyda aelodau o'r UDRh neu Tim Bugeiliol.

    5. Tasgau Eraill:

    Bydd y Croesawydd, ar y cyd ag aelodau eraill o'r Tîm Ategol, yn:
    • gofalu am ddisgyblion sâl / bregus sydd yn ymweld â'r swyddfa gan gysylltu â'r cartref neu gyfeirio at yr aelod staff priodol i dderbyn cymorth cyntaf; mewn achosion arbennig, mynd a disgyblion i'r feddygfa / ysbyty
    • cyfrifoldeb am gadw cofnodion SIMS disgyblion yn gyfoes
    • gweinyddu trefniadau ar gyfer ymwelwyr i'r ysgol gan gynnwys archwiliadau meddygol (golwg, clyw, pigiadau)
    • chwilio am ddisgyblion ar gais aelod o'r UDRh
    • ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy'n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar gais y Pennaeth.

    Mae'r uchod yn disgrifio'r ffordd y disgwylir i'r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio'r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.

    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi