MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: MPR / UPR
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Cymraeg - Ysgol Morgan Llwyd

Cyngor Wrecsam

Cyflog: MPR / UPR

Ynglŷn â'r Rôl
Athro / Athrawes Cymraeg - Cyfnod mamolaeth.

Mae'r adran Gymraeg yn un o adrannau pwysicaf yr ysgol fel ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd yn adran llwyddiannus iawn. Addysgir y pwnc i bob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 a bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda chymhwyster TGAU yn y pwnc. Mae niferoedd iach yn dewis y pwnc yn y chweched ac mae canlyniadau'r adran yn gyson dda.

Dyma un o adrannau mwyaf yr ysgol. Mae 7 athro/wes arbenigol yn dysgu'r pwnc a 2 athro/wes arall yn cyfrannu tuag at ddysgu CA3 o dan arweiniad ardderchog pennaeth yr Adran, Mrs Eurgain Hughes. Mae 6 ystafell ddysgu braf yn yr Adran ynghyd a swyddfa a stordai ar gyfer yr Adran. Mae adnoddau TGCH penodol i'r adran yn ogystal a mynediad i adnoddau ysgol gyfan.

Prif ddyletswydd Athro / Athrawes Cymraeg yw addysgu Cymraeg i flynyddoedd 7 i 11. Bydd yr athro/wes yn atebol i bennaeth yr adran. Bydd athro/wes newydd gymhwyso o dan ofal Mentor Sefydlu.

Penodir yn unol ag amodau cyflogaeth cyfredol athrawon ysgol sydd wed-i'u cynnwys yn Nogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, a'r safonau proff-esiynol newydd ar gyfer athrawon (Cymru).

Am rhagor o wybodaeth gwiriwch y pecyn swydd.

Dyddiad Cau 15/5/26

Cyfweliadau 21/5/26
Amdanom Ni
Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae bron i 900 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 81 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.

Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu .