MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £24,049 - £44,011 / blwyddyn

Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol
Application Deadline: 17 July 2024

Department: Creative Industries

Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Pennaeth Cyfrangau Creadigol a Chwaraeon

Compensation: £24,049 - £44,011 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd ac ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae Maes Cwricwlwm y ddarpariaeth Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol yn rhan o Faes Cwricwlwm y Diwydiannau Creadigol, Chwaraeon, Technoleg a Pheirianneg ac mae'n eistedd o fewn Cyfarwyddiaeth Llanelli a weithredir o Gampws y Graig. Mae ei faes dynamig yn cynnig ystod amrywiol o gyrsiau o Lefel 1 drwodd i Lefel 6. Mae hefyd yn gyfrifol am redeg yr Academi Chwaraeon sy'n fawr ei bri a Gwobrau Dug Caeredin. Fel rhan o adran y єDiwydiannau Creadigol', mae'r Celfyddydau Perfformio yn rhedeg rhaglenni bywiog ar gyfer eu dysgwyr, gan roi dealltwriaeth glir iddynt o'r sector, a'u galluogi i symud ymlaen i fyd gwaith a/neu addysg uwch. Maent yn cynnig cyrsiau ar Lefel 1 drwodd i Lefel 4 ac mae ganddynt gysylltiadau cryf ag arbenigwyr y diwydiant, sy'n ymweld fel siaradwyr gwadd ac yn cynnal sesiynau gweithdy. Mae'r adran yn pwysleisio datblygiad sgiliau creadigol fel rhan annatod o'r ddarpariaeth, ac yn cynnig sesiynau Academi Sgiliau i'r holl ddysgwyr yn y maes.

Bydd deilydd y swydd hon hefyd yn gweithio'n agos gyda'n Hadran Perfformio a Chynhyrchu a'n Hadran Celfyddydau Perfformio. Y nod yw hyrwyddo cydweithrediadau creadigol er mwyn gwella profiadau dysgwyr, a datblygu enw da yn rhanbarthol am ragoriaeth wrth gyflwyno'r diwydiannau creadigol. Rydym yn symud ymlaen i gyfnod sydd â llawer o gyfleoedd o fewn PCYDDS, datblygiad єYr Egin' ac S4C a thenantiaid eraill yn symud i'r adeilad eiconig hwn. Mae hyn wedi rhoi cyfleoedd newydd i ni gydweithio gyda diwydiant yn lleol a Chenedlaethol yn ogystal â gweithio mewn ymateb i flaenoriaethau'r llywodraeth i ddatblygu'r cwricwlwm gyda chyflwyniad DSW i'r maes.

Mae pob dysgwyr yn dilyn llwybrau Sgiliau Llythrennedd neu Rifedd ochr yn ochr â'u prif gymhwyster ynghyd â rhaglen diwtorial fugeiliol gref.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Ymgymryd â'r gwaith o addysgu ac asesu Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol Lefel 1, 2 a 3
  • Cyflwyno a hyrwyddo datblygiad Sgiliau Cyfryngau a gwaith i gynhyrchu ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd rhan yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru a'r DU.
  • Gweithio'n weithredol i ddatblygu recriwtio trwy greu prosiectau ac ymgysylltu ag ysgolion lleol tra'n hyrwyddo cyfleoedd marchnata mewnol ac allanol.
  • Mynd ati'n weithredol i geisio cyfleoedd cydweithredu creadigol rhwng adrannau'r diwydiannau creadigol a darparwyr allanol.
  • Arwain/mynd gyda dysgwyr i amrywiaeth o leoliadau yn unol â galwadau manylebau'r cwrs.
  • Cysylltu gyda chydweithwyr y diwydiannau creadigol, rheolwyr a chyfarwyddwyr i sicrhau profiad effeithiol i'r dysgwr a deilliant llwyddiannus.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol priodol
  • Profiad addysgu perthnasol
  • Profiad diwydiannol perthnasol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
Dymunol:
  • Cymhwyster addysgu
  • Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
  • Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
  • Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
  • Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
  • Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn effeithiol
  • Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol pobl ifanc
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein