MANYLION
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,842 - £29,380
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Anogwr Swyddi CC/2619

Coleg Cambria

Cyflog: £26,842 - £29,380

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Anogwr Swyddi

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Amser tymor yn unig; 34 wythnos (77.36%FTE) Cyfnod penodol -01/07/2025 37 awr yr wythnos

Cyflog: £26,842 - £29,380 (y cyflog llawn amser yw hwn, bydd y cyflog yn pro rata yn dibynnu ar y patrwm gwaith)

Ydych chi'n angerddol am rymuso pobl ifanc a'u helpu nhw i gyflawni eu breuddwydion gyrfa? Os felly, mae gennym ni gyfle cyffrous i chi ymuno â'n tîm Sgiliau Byw'n Annibynnol yn Llaneurgain fel Anogwr Swyddi.

Eich prif nod yw hwyluso hyfforddi ac integreiddio interniaid â chymorth i gylchdroi adrannau ar y safle a/neu amgylchedd gwaith cystadleuol, i sicrhau eu bod nhw'n ffynnu ac yn llwyddo.

Fel anogwr swyddi byddwch chi'n cynorthwyo wrth recriwtio interniaid i'r busnes sy'n eu gwahodd, gan gynnwys cyfweliadau, asesiadau cychwynnol, a phrosesau ymuno ac ymsefydlu. Byddwch chi'n defnyddio technegau anogwr swyddi i gynorthwyo datblygiad pobl ifanc tuag at gyflogaeth.

Bydd yn hanfodol darparu hyfforddiant a chymorth wedi'u teilwra, gan gynnwys technegau anogwr swyddi, adeiladu cymorth naturiol, a nodi addasiadau rhesymol a thechnolegau cynorthwyol.

Mae disgwyl i Anogwr Swyddi gofnodi cynnydd intern ar systemau cymeradwy i sicrhau bod taith yr intern yn bodloni targedau unigol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag interniaid, cyflogwyr, teuluoedd, y tiwtor a'r Cyfarwyddwr Cwricwlwm, partneriaid y grŵp llywio a phobl briodol eraill i ddatrys materion sy'n ymwneud â hyfforddiant a chyflogaeth lle bo angen.

Gofynion Hanfodol
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch.
  • Cymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu'n fodlon gweithio tuag at hynny.
  • Cymhwyster Lefel 3 perthnasol.
  • Profiad y gellir ei brofi fel anogwr swyddi.
  • Profiad mewn gweithredu cynlluniau cyflogaeth.
  • Gwybodaeth a phrofiad o gefnogi a gweithio gyda phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Mewnrwydi yn ogystal â bod yn fodlon dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd.
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen.
  • Gallu cynllunio a rheoli llwyth gwaith personol, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Gallu i ysbrydoli a chymell.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig