MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,908 - £34,832
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol (plant a phobl ifanc) CC/2623

Coleg Cambria

Cyflog: £30,908 - £34,832

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol (plant a phobl ifanc)

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Graddfa Gyflog: £30,908 - £34,832

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ein darpariaeth Plant a Phobl Ifanc. Rydym yn gofyn i ddeiliad y swydd allu hwyluso dysgu dwyieithog

Bydd yr ymarferydd yn asesu'r ystod lawn o gymwysterau o fewn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr a bennir gan fformiwla llwyth achosion perthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi ar gyfer dysgwyr, yn cofrestru ar gyrsiau priodol ac yn darparu hyfforddiant, mentora a chyfleoedd dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-i-1 neu fel gweithdy (argymhellir uchafswm maint grŵp o 8).

Monitro cynnydd dysgwyr tuag at gymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a'u harwain i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.

Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios wedi'u cwblhau ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc, i gynnal asesiadau hyd at Lefel 5
  • Meddu ar gymhwyster asesydd neu fod yn barod i weithio tuag ato (TAQA)
  • Meddu ar gymhwyster Sicrhau Ansawdd neu fod yn barod i weithio tuag ato (401 Uned TAQA ar hyn o bryd).
  • Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gyfwerth) ar Radd 4 (C) neu uwch
  • Meddu ar gymhwyster Lefel 2 Llythrennedd Digidol neu fod yn barod i weithio tuag ato
  • Profiad profedig yn y diwydiant o fewn maes proffesiynol perthnasol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc)
  • Profiad o gysylltu a gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr allanol mewn diwydiant
  • Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd o fewn addysg

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Rydym yn gofyn i ddeiliad y swydd allu hwyluso dysgu dwyieithog

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig