MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

cymhorthydd addysgu Lefel

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Tanyfron

Tanyfron Road, Tanyfron, Southsea, Wrecsam LL11 5SA

Ffon: 01978 758118

Pennaeth: Mrs J. Jones

15 awr: 12pm - 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (contract dros dro tan fis Ebrill 2025)

G03 £7,692 - £7,819

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Dymuna Gorff Llywodraethu Ysgol Tanyfron benodi cymhorthydd addysgu Lefel 1 gofalgar, brwdfrydig, gweithgar a chreadigol sy'n ymroi i gefnogi a hyrwyddo lles disgyblion a phrofiadau cadarnhaol i ddysgwyr, yn ogystal â gweithio ar eu datblygiad proffesiynol eu hunain.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio dan gyfarwyddyd athro dosbarth wrth gefnogi disgyblion penodol mewn amgylchedd diogel, ysgogol a phwrpasol ble caiff yr holl ddisgyblion eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.

Rydym yn dîm ymroddgar, cyfeillgar a chefnogol sy'n ymrwymo i gyflawni'r gorau i bawb. Mae profiad o weithio ochr yn ochr â phlant Meithrin, Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 2 a 3 yn ddymunol, ynghyd ag unrhyw brofiad o weithio gydag unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog a sgiliau llythrennedd a rhifedd da yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd y gwaith yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan i'r brif ardal addysgu. Bydd y swydd yn cynnwys goruchwyliaeth canol dydd hefyd.

Cynigir y swydd ar gontract dros dro a fydd yn dechrau ar 1 Medi 2024.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.