MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 & Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Sant Dunawd, Ffordd Sandown, Bangor-Is-y-Coed

Wrecsam, LL13 0JA

Pennaeth: Mr. Dion Griffiths

CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 1 a CHYNORTHWYYDD GORUCHWYLIOL CANOL DYDD

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

G03 15 awr yr wythnos

£11.79 - £11.98 yr awr

£7,692 - £7,819 y flwyddyn

Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd

G02 2.5 awr yr wythnos

£11.59 yr awr

£1,261 y flwyddyn

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

SWYDD DROS DRO

Dyddiad dechrau: 4ydd Medi 2024

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ymroddedig. Yn bennaf mae'r swydd yn golygu gweithio i gefnogi disgybl i gael mynediad at y cwricwlwm a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys 2.5 awr o fod yn Gynorthwy-ydd Goruchwylio Canol Dydd.

Bydd y rôl hon wedi'i lleoli mewn dosbarth sy'n gymysgedd o blant Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 bob bore a bydd yn goruchwylio disgyblion ar draws yr ysgol yn ystod amser cinio. Fe fydd o dan gyfarwyddyd uniongyrchol y staff addysgu/uwch staff, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth gyda'r athro.

Mae profiad o weithio gyda disgyblion iau sydd ag anghenion ychwanegol yn ddymunol. Dylai ymgeiswyr allu gweithio fel rhan o dîm ac ar ben eu hunain. Mae sgiliau cyfathrebu da a dealltwriaeth o blant sydd ag anghenion amrywiol yn hanfodol.

Am fanylion pellach cysylltwch â'r Pennaeth, Dion Griffiths ar 01978 780757 neu mailbox@santdunawd-pri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

mailbox@santdunawd-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12:00pm Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024

CYFWELIADAU: Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024