MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: G04 : £21,256 - £22,354 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Gweinyddol - Ysgol Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: G04 : £21,256 - £22,354 y flwyddyn

YSGOL ABERCONWY

Swyddog Gweinyddol

Ystod Cyflog: G04 : £21,256 - £22,354

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Mae hon yn swydd barhaol o 37 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener Gorffennaf 12fed

Dyddiad Cychwyn: 1 Medi 2024

Rydym yn ceisio penodi swyddog Gweinyddol brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â thîm gweinyddol ymroddedig yn yr ysgol. Byddant yn gweithio dan arweiniad y Rheolwr Swyddfa i gynnal data disgyblion, trefnu cyflenwi ar gyfer staff absennol, darparu cymorth gweinyddol ar gyfer monitro a rheoli presenoldeb myfyrwyr, darparu cymorth gweinyddol cyffredinol a chymorth yn y dderbynfa.

Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
  • Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
  • Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
  • Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
  • Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
  • Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
  • Ysbryd cymunedol cryf;
  • Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy'n cynnwys mwy na 1000 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi'i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a'n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.

This form is also available in English.