MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 29,269 - 31,364 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am benodi Mentor Sgiliau Plant a Phobl Ifanc i ymuno â'r tîm Ymgysylltu a Chyrhaeddiad am gyfnod mamolaeth (Dysgu Gydol Oes) i weithio ar draws ein hysgolion. Mae hon yn rôl gyffrous yn y gwasanaeth sydd yn roi'r cyfle i weithio gyda phobl ifanc o'r gymuned, gan wella eu agwedd at addysg mewn lleoliad addysgol a phwrpasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
- llunio a chydlynu pecynnau cymorth addysgol a lles sy'n diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol ein disgyblion
- sicrhau Iechyd, diogelwch a lles yr holl ddisgyblion trwy weithio mewn swyddogaeth aml-asiantaethol
- darparu a chydlynu gofal bugeiliol o ansawdd uchel trwy gydlynu rhaglenni ac ymyriadau
- creu amgylchedd cynhwysol, cyfforddus a hapus i sicrhau ymgysylltiad da a lles y disgyblion
- gweithio fel rhan o dîm i sicrhau darpariaeth ddyddiol effeithiol
Rydym am recriwtio unigolyn gyda:
- sgiliau rhyngbersonol
- sgiliau trafod rhagorol
- sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol
- agwedd gadarnhaol, gynhwysol tuag at amrywiaeth
- gallu i gysylltu'n dda â disgyblion a phobl ifanc sy'n agored i niwed / heriol
- gallu i weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.
- gallu i fod hyblyg yn eich dull gweithredu a gallu datrys problemau
- gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a mynd ati i chwilio am gyfleoedd dysgu
- ymwybyddiaeth ragorol o bolisïau / gweithdrefnau / prosesau perthnasol sy'n gysylltiedig â'r swydd (e.e. ymwybyddiaeth o ymlyniad, diogelu, achrediadau)
- gallu i fod yn arloesol a chreadigol yn eich dull o gefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed ac yn heriol
- gallu i fod yn ddibynadwy a pharchu cyfrinachedd
- gallu i fod yn drefnus a'r gallu i aml-dasgio
- gallu i gynnal perthynas broffesiynol wrth weithio gyda phobl ifanc a phartneriaid cyflenwi allanol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Rheolwr Tîm Mr Jamie James 07896818288 neu jamie.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy