MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Barker's Lane

Wrecsam

LL13 9UN

01978 357754

Pennaeth: Mrs Chris Edwards

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 - Dros dro tan 31/3/2025

G04 £15,900 - £16,166 per annum

(30 awr yr wythnos)

yn ystod y tymor yn unig

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd/arweiniad y staff addysgu/staff uwch, i gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad i ddisgyblion at ddysgu a chynorthwyo'r athro/athrawes i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. mailbox@barkerslane-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.