MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dosbarth - Ystod oedran cynradd

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa

Athro/Athrawes Dosbarth - Ystod oedran cynradd
Swydd-ddisgrifiad
Ei angen/hangen ar gyfer Medi 2024 yn amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogi a diogelu.
Mae'r corff llywodraethu am benodi athro/athrawes dosbarth ysgogol, profiadol, brwdfrydig a rhagorol i ymuno â'r tîm.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhannu ein hymrwymiad i safonau uchel ac yn cyfrannu'n weithredol at ein tîm deinamig, gan helpu i yrru ein hysgol yn ei blaen.
• Arddangos a hyrwyddo gwerthoedd a thueddiadau'r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
• Ymarferydd dosbarth rhagorol â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad a bod ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo.
• Ymarferydd ystafell ddosbarth arloesol, sy'n gallu cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru
• Mynd ati i hyrwyddo llesiant, lles a diogelu ar gyfer pob plentyn.
• Dangos ymrwymiad personol at ddatblygiad proffesiynol ac i fod yn ddysgwyr gydol oes.
• Dangos arbenigedd mewn defnyddio ac arwain TGCh ar draws y cwricwlwm.
• Cydweithio gyda thîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:
Tara Morgan, Pennaeth Dros Dro, Ysgol Y Mynydd Du
[email protected]
Bev Matthews, Cadeirydd y Llywodraethwyr trwy e-bost:
[email protected]

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.