MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £30,296 - £33,945 y flwyddyn (G06)

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Mae cyfle prin wedi codi gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy ar gyfer Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr newydd i ymuno â'n Tîm Ymgysylltu dynamig a brwdfrydig.

Bydd y Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'n Swyddog Ymgysylltu Cyflogwyr presennol yn ogystal ag ystod eang o gyflogwyr lleol i nodi a chanfod cyfleoedd gwirfoddoli, treialon gwaith, lleoliadau gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd cyflogaeth i'n cyfranogwyr. Byddwch yn gweithio i gefnogi tîm o Fentoriaid Cyflogaeth i wella perfformiad a chanlyniadau'r tîm.

Bydd y swydd yn cynnwys elfennau o alwadau diwahoddiad er mwyn denu cyflogwyr newydd a chysylltu'n agos gyda phartneriaid ac aelodau'r tîm datblygu busnes ac ymgysylltu â chyflogwyr, rhai mewnol ac allanol, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at ein strategaeth ymgysylltu â chyflogwyr.

Rhaglen gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy sy'n anelu at gyflawni'r ddwy nod ganlynol:
ii. trechu tlodi drwy gyflogaeth gynaliadwy a gwaith teg, a
ii. mynd i'r afael ag anghydraddoldeb drwy ganolbwyntio ar gefnogi'r unigolion hynny sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Libby Duo, Rheolwr Strategol Sgiliau a Chyflogadwyedd, 01492 575509 Libby.duo@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.