MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau

G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn

Mae'r Adran Addysg yn chwilio am chwaraewr tîm brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol prysur.

Bydd disgwyl i chi ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd am gynnal a chadw adeiladau ar gyfer pob adeilad ysgol, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw ymatebol, deddfwriaethol, arfaethedig a chylchol. Byddwch yn cefnogi ac yn darparu cyngor i'r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol ar gynnal a chadw adeiladau newydd a chynlluniau adnewyddu a gwella. Byddwch yn sicrhau bod portffolio eiddo Adran Addysg y Cyngor yn bodloni gofynion defnyddwyr y gwasanaeth a'r holl reoliadau statudol. Byddwch yn deall ac yn cadw at systemau a phrosesau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Cynnal a Chadw Adeiladau berthnasol.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr Rheoli Cyfleusterau, gan sicrhau bod CLG Rheoli Cyfleusterau ysgolion yn cael ei gyflawni a bod ysgolion yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau dan y cytundeb hwn. Elfen allweddol o'r rôl hon yw sicrhau bod ysgolion nad ydynt yn prynu'r CLG yn cynnal a chadw eu hadeiladau yn unol â'r canllawiau statudol.

Mae gwybodaeth am, ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn hanfodol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Aled Pugh-Jones, Arweinydd Rheoli Cyfleusterau, ar 01978 315630.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.