MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £10.00 - £12.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo - Ysgol Clywedog

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G02 £11.59 yr awr

15 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig

Rydym am benodi cynorthwyydd arlwyo parhaol i gynorthwyo â dyletswyddau yn y gegin a'r ystafell fwyta yn yr ysgol uchod.

Prif Ddyletswyddau i gynnwys :-

1 - Paratoi diodydd a bwyd sylfaenol e.e. paratoi llysiau, eitemau salad, a ffrwythau ac ati.

2 - Coginio syml e.e. paratoi byrbrydau

3 - Dyletswyddau cyffredinol y gegin a'r ystafell fwyta e.e. golchi'r llestri, symud byrddau a chadeiriau'r ystafell fwyta, a chlirio'r ystafell fwyta.

4 - Glanhau'r gegin, yr offer, a chyffiniau'r gegin.

5 - Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cyfateb â natur gyffredinol a graddfa'r swydd yn ôl y Cogydd ar ddyletswydd.

6 - Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyncais oddi wrth: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Addysg ac Ymyrraeth Gynnar,Adeiladau'r Goron, 31 Heol Caer Wrecsam. LL13 8BG -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.