MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1GA
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,334 - £29,269
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweinyddwr Ysgol Lefel 3

Cyngor Sir Fynwy
Mae cyfle wedi dod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol; y cyfle i ddod yn rhan o dîm
ymroddedig yn Ysgol Gymraeg Trefynwy, ein hegin ysgol yn Nhrefynwy, sy’n agor ym
mis Medi 2024.

Mae gennym o ddisgyblion o Feithrin i Flwyddyn 1 eisoes wedi cofrestru ac yn barod
i ddechrau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n gyfnod cyffrous a hanesyddol i
dref Trefynwy. Mae Cylch Ti a Fi ffyniannus, o dan arweinydd ysbrydoledig yn cyfarfod
yn lleol, ac o 2025 ymlaen, bwriedir agor Cylch Meithrin gyda darpariaeth cofleidiol lawn
yn yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos agwedd effeithiol, cyfeillgar a threfnus at ystod eang o dasgau a dyletswyddau gweinyddol. Byddai gwybodaeth a defnydd gweithredol o systemau rheoli ysgolion megis SIMS, AGRESSO a Parent Pay o fantais. Bydd angen i chi ddangos y gallu i weithio'n effeithiol i reoli cyllideb, gweinyddu'r systemau cyflogres a data staff, a dangos gwybodaeth ymarferol o weithdrefnau archwilio, bancio a rheoli data. Bydd angen i chi ddangos y gallu i weithio'n gefnogol ac yn effeithiol mewn tîm, yn ogystal ag yn arloesol ac yn annibynnol.

Mae’r Llywodraethwyr yn chwilio am rywun sydd:

• yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg;
• yn credu mewn gwelliant parhaus i chi'ch hun fel ffordd o gyflawni'r gorau oll i blant a theuluoedd ein cymuned.
• yn meddu ar yr egni a’r ymrwymiad i fynd y ‘filltir ychwanegol’,
• yn gweithio'n dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chymuned ehangach yr ysgol;
• yn helpu i lunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord ag ethos a gweledigaeth;

Byddai profiad o weithio mewn Gweinyddiaeth Ysgol o fantais, er y gellir darparu
hyfforddiant.