MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £0.00 - £10,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: G05 pwynt 12 - 19 £9,217 - £10,387 y flwyddyn
YSGOL DEGANWYPark Drive
Deganwy
Conwy
LL31 9YB
Ffôn: 01492 574600
Pennaeth: Mrs Hâf Eleri Williams
Yn eisiau erbyn Medi 2024
Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch
(Contract dros dro hyd at 31/08/2025)
Oriau: 15 awr yr wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddi
Cyflog: G05 pwynt 12 - 19 £9,217 - £10,387 y flwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Deganwy yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch brwdfrydig i'r swydd uchod i weithio gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 574600.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English