MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberaeron,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 22,366 *
Ynglŷn â'r rôlRydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 1 i cefnogi grwpiau targed o blant ADY yn y dosbarthiadau prif ffrwd Cymraeg a Saesneg gan ddefnyddio ystod eang o strategaethau dwyieithog o dan arweiniad y CADy.
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol ddwyieithog naturiol, a'r nod yw cefnogi pob disgybl i fod yn ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae dros 570 o ddisgyblion, a dros 90 ohonynt yn y 6ed dosbarth. Amcanwn at greu amgylchedd o waith called, lle gall y disgyblion fwynhau llwyddiant academaidd, a datblygu'n bersonol ac emosiynol, trwy rinwedd gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Anogir y disgyblion i wneud eu gorau, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib, ac i'w paratoi am fywyd yn ystod, ac ar ôl eu blynyddoedd ysgol.
Ynghyd ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae'r ysgol hefyd yn cynnal Canolfan Adnoddau Arbenigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu - Canolfan y Môr. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg fel rhan o dîm a gallu newid ei ffordd o weithio i ddiwallu anghenion amrywiol y disgyblion.
Fe fydd gofyn i chi:
- ymwneud ag anghenion personol y disgyblion, a gweithredu rhaglenni personol perthnasol, gan gynnwys materion cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf a lles
- goruchwylio a chefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu
- cynorthwyo gyda datblygu, gweithredu ac adolygu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol
- rhoi adborth i ddisgyblion ynghylch cynnydd, cyflawniad, ymddygiad, presenoldeb, ac ati
- hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad i'r holl ddisgyblion
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro neu'r athrawes
- annog disgyblion i weithredu'n annibynnol, fel y bo'n briodol
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da
- cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu a hyfforddi
- gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deal cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersolol o fewn y swyddogaeth hynny
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Michelle Davies ar 01545570217.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy