MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Clywedog

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

G04 £23,500 - £23,893 pro rata

£12.18 - £12.38 yr awr

25 awr yr wythnos

TYMHORAU YN UNIG

Mae angen Cogydd Cynorthwyol mewn uned arlwyo brysur yn Ysgol Clywedog. Bydd y person yn gyfrifol, gyda goruchwyliaeth, am weithrediad effeithiol y gegin o ddydd i ddydd, a bydd disgwyl iddo fod yn llwyr gyfrifol am y gegin yn absenoldeb y Brif Gogyddes/Prif Gogydd.

Bydd prif ddyletswyddau'r swydd uchod yn cynnwys:

• Dyletswyddau coginio medrus mewn perthynas â'r amrywiaeth o brydau sy'n cael eu gweini a dealltwriaeth o arferion coginio iach

• Ymgymryd ag ystod lawn dyletswyddau'r Brif Gogyddes/Prif Gogydd pan fydd angen.

• Cynnal system ddi-bres.

• Gwneud archwiliadau stoc a dyletswyddau clercyddol.

• Goruchwylio a rheoli hylendid o safbwynt iechyd a diogelwch.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau sy'n unol â natur gyffredinol a gradd y swydd.

Gellwch gwblhau ffurflenni cais ar-lein neu gellwch ofyn am becyn ymgeisio oddi wrth: Susan Thomas. Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU. Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.