MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 1 i Bwynt 2 £22,366 y flwyddyn ar gyfartaledd £11.59 yr awr
Cynorthwyydd Clwb Ar Ôl YsgolSwydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel rhan o dîm, goruchwylio'r plant a sicrhau eu diogelwch a'u lles a darparu gofal priodol iddynt yn ystod amseroedd y clwb o dan gyfarwyddyd Arweinydd y Clwb Ar Ôl Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur).
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS