MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Dîm Rheoli, cefnogi prosesau gweinyddol, ariannol a threfniadaethol yn yr ysgol a chynorthwyo i gynllunio a datblygu gwasanaethau cefnogi i staff addysgu a disgyblion. Goruchwylio tîm bach o staff clercyddol / gweinyddol. (Lle y bo'n briodol) Rhywfaint o gyfrifoldeb cyllidebol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill, os o gwbl, er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Mae gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol am drin arian, prosesu sieciau, anfonebau neu bethau tebyg, ac mae'n atebol am hyn, ac mae'n atebol am gyllideb fechan.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel.
• Cynhyrchu gohebiaeth reolaidd ac afreolaidd.
• Cynhyrchu a diweddaru dogfennau ysgol.
• Mynychu cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a chymryd rhan ynddynt.
• Cyfrannu at gynllunio, datblygu a threfnu gwasanaethau cefnogi, systemau, gweithdrefnau a pholisïau.
• Rheoli gwybodaeth a gohebiaeth gyfrinachol a sensitif.
• Rheoli systemau gwybodaeth a chofnodion cyfrifiadurol a phapur.
• Dadansoddi a gwerthuso data/gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau/ gwybodaeth/ data yn ôl y gofyn.
• Cynhyrchu a chyflwyno ffurflenni i'r ALl a chyrff allanol.
• Darparu cymorth personol, gweinyddol a threfniadaethol i'r Uwch Dîm Rheoli a'r Corff Llywodraethu.
• Monitro a rheoli adnoddau mewn cyllideb y cytunwyd arni a chynnal archwiliadau yn ôl y gofyn.
• Cynorthwyo gyda chaffael a noddi.
• Cynorthwyo gyda marchnata a hyrwyddo'r ysgol.
• Rheoli gwaith gweinyddu cyfleusterau gan gynnwys defnyddio safle'r ysgol.
• Cynorthwyo gyda chynllunio, monitro a gwerthuso cyllideb ddirprwyedig yr ysgol a rheoli gwariant mewn cyllideb y cytunwyd arni.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y
DBS.