MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandudno,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 x 3 Swydd - Ysgol Y Gogarth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Gradd G02, pwynt NJC 4-5 £17,202 - £17,489 y flwyddyn
YSGOL Y GOGARTHYsgol Ddydd/Breswyl Arbennig i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig
(275 ar y gofrestr, ystod oedran 3 i 19)
Ffordd Nant y Gamar, Llandudno, LL30 1YE
Ffôn: 0300 456 9521
Pennaeth: Mrs Lisa Kovacs
Yn eisiau erbyn mis Medi 2024
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2 X 3 SWYDD
Parhaol
cynhelir cyfweliadau ddydd Iau 11 Gorffennaf
Mae'r Corff Llywodraethol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y swyddi uchod.
Byddwch yn cynorthwyo disgyblion i gael mynediad at ddysgu ac yn cynnig cymorth cyffredinol i'r athro wrth reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Byddwch yn unigolyn cadarnhaol, egnïol a hyblyg ac yn bwysicaf oll yn rhoi'r plant yn gyntaf wrth gefnogi ein disgyblion.
Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o becynnau hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chymwysterau.
Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ddymunol.
Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol hefyd
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn destun Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/jobs i gyflwyno eich cais ar-lein.
Sylwer nid yw'r awdurdod bellach yn darparu ffurflenni cais nac yn derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirda yn cael eu gwirio.
Os na fydd ymgeiswyr wedi clywed gennym cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau, dylent ragdybio nad ydynt wedi'u rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad ac ni fyddant yn cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig.
Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal mae Conwy yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English