MANYLION
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 x 4 Swydd Dros Dro - Ysgol Y Gogarth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Gradd G02, pwynt NJC 4-5  £17,202 - £17,489 y flwyddyn

YSGOL Y GOGARTH

Ysgol Ddydd/Breswyl Arbennig i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

(275 ar y gofrestr, ystod oedran 3 i 19)

Ffordd Nant y Gamar, Llandudno, LL30 1YE

Ffôn: 0300 456 9521

Pennaeth: Mrs Lisa Kovacs

Yn eisiau erbyn mis Medi 2024

CYMHORTHYdd aDDYSGU LEfEL 2 x 4 swydd

Dros Dro

02/09/2024 - 31/08/2025

cynhelir cyfweliadau ddydd Iau 11 Gorffennaf

Mae'r Corff Llywodraethol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

Byddwch yn cynorthwyo disgyblion i gael mynediad at ddysgu ac yn cynnig cymorth cyffredinol i'r athro wrth reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Byddwch yn unigolyn cadarnhaol, egnïol a hyblyg ac yn bwysicaf oll bydd yn rhoi'r plant yn gyntaf wrth gefnogi ein disgyblion.

Mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o becynnau hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chymwysterau i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ddymunol.

Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol hefyd

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn destun Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/jobs i gyflwyno eich cais ar-lein.

Sylwer nid yw'r awdurdod bellach yn darparu ffurflenni cais nac yn derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirda yn cael eu gwirio.

Os na fydd ymgeiswyr wedi clywed gennym cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau, dylent ragdybio nad ydynt wedi'u rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad ac ni fyddant yn cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig.

Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal mae Conwy yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English