MANYLION
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £18,967 - £19,633 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cwnselydd Ysgol - Tîm Cwnsela Plant ac Ieuenctid
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £18,967 - £19,633 y flwyddyn
Cwnselydd Ysgol - Tîm Cwnsela Plant ac IeuenctidDisgrifiad swydd
28 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes bod deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o dîm Cymorth Cynnar amlasiantaethol wedi'i gyd-leoli. Rydym yn chwilio am gwnselydd cymwys i weithio gyda phlant a phobl ifanc yn lleoliadau ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen gwybodaeth fanwl am ddulliau seiliedig ar dystiolaeth ar y cwnselydd er mwyn gwella lles emosiynol plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymhelliant i wella canlyniadau cynaliadwy i blant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau lluosog a chymhleth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloesi a datblygu eich sgiliau mewn arfer seiliedig ar dystiolaeth gyda phlant a theuluoedd. Os ydych yn cael eich denu gan y gwaith hwn ac yn gallu bodloni gofynion manyleb y person edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 16 Gorffennaf 2024
Dyddiad Cyfweld: 23 Gorffennaf 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person