MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £32,076 i £33,945 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.62 i £17.59 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Ymestyn dysgu disgyblion yn y dosbarth ac mewn amgylchoedd dysgu eraill, gan gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau bychan a dosbarthiadau cyfan ar draws ystod oedran yr ysgol - Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 5 - lle nad yw'r athro/athrawes dynodedig yn bresennol.
Cynllunio a rhoi ar waith gwersi/cyfres o wersi ar gyfer gwahanol grwpiau o ddisgyblion.
Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu sydd wedi'u cytuno ar draws yr ysgol gan gynnwys modiwlau achrededig. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ymgymryd â gwaith penodol (gweler * isod), a fydd yn golygu cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu i ddisgyblion unigol/grwpiau neu ar gyfer dosbarthiadau cyfan ynghyd a'r gwaith monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn unol â pholisi Asesu, Cofnodi ac Adrodd ysgolion unigol.
(* dan Adran S133 Deddf Addysg 2002, diffinnir gwaith penodol fel a ganlyn:
• Cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion
• Cyflwyno gwersi i ddisgyblion, gan gynnwys cyflwyno gwersi trwy ddysgu o bell neu dechnegau gyda chymorth cyfrifiadur
• Asesu a chofnodi datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
• Adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
Bydd gwaith disgyblion yn cynnwys gwaith gyda disgyblion unigol yn ogystal â grwpiau a dosbarthiadau cyfan).
Bod yn aelod o dîm amlddisgyblaeth a chydweithio ag athro/athrawes cymwys y dosbarth neu grŵp. Bydd gan yr athro/athrawes lefel uchel o awdurdod dirprwyedig dan system o oruchwylio sydd wedi'i chytuno.
Cefnogi a chyfrannu at benderfyniadau trwy aelodaeth o'r Uwch Dim Arweinyddiaeth a Rheoli.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.

Bydd Gwiriad DBS Manwl yn ofynnol ar gyfer y swydd hon