MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon
YSGOL SŴN Y DONPenmaenrhos, Bae Colwyn, LL29 9LL
Rhif ffôn: (01492) 577290
Pennaeth: Mrs Suzanne Fox
Yn eisiau erbyn mis Hydref 2024
ATHRO/ATHRAWES DROS DRO
Cyfnod Mamolaeth
Mae Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes angerddol, gofalgar, llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm effeithiol.
Gweledigaeth. Dyhead. Pwrpas.
Yn Sŵn y Don, 'rydym yn meithrin creadigrwydd ac yn annog pawb i ddilyn eu breuddwydion.
Rydym yn angerddol am roi'r plant yn gyntaf, drwy gwricwlwm cynhwysol, ysbrydoledig ac arloesol, sy'n mynd y tu hwnt i'r dosbarth. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, parch a derbyn. Mae ein plant yn ddiogel a hapus.
Yn Sŵn y Don, rydym wir yn credu bod popeth yn bosibl!
Drwy gefnogaeth a gofal, rydym yn rhoi grym i'n disgyblion i fod yn llwyddiannus, a rhoi'r arfau iddynt ddeall sut i fyfyrio, datblygu a chymryd cyfrifoldeb am eu teithiau dysgu eu hunain.
Cydweithio i sicrhau gwell dyfodol i bawb!
Ehangu eich gorwelion.
Credu yn eich breuddwydion.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon ymroddgar, sy'n deall pwysigrwydd datblygu'r Cwricwlwm i Gymru, drwy'r pedwar diben a gosod lles a meithrin wrth wraidd eu haddysgu a'u dysgu.
Yr hyn rydym ni'n ei gynnig:
- Ysgol gyfeillgar, groesawgar, sy'n meithrin, a ble mae pawb y cael ei werthfawrogi.
- Amgylchedd sy'n seiliedig ar Drawma, a'n gwerthoedd craidd yw cynhwysiant, cydraddoldeb a thegwch.
- Staff ymroddgar, llawn cymhelliant sy'n credu mewn gwaith tîm a meithrin perthnasoedd positif yn yr ysgol a'r gymuned.
- Cefnogaeth lawn y Pennaeth a'r Llywodraethwyr ar gyfer datblygiad proffesiynol.
- Yn gallu dangos sgiliau effeithiol mewn trefnu dosbarth a rheoli ymddygiad.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â dysgwyr, aelodau'r Corff Llywodraethu, staff, rhieni/ gofalwyr a gallu meithrin perthnasoedd effeithiol â gweithwyr proffesiynol eraill.
- Gallu bodloni gofynion y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain.
- Gallu gweithio'n effeithiol ar eich liwt eich hun yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Yn ddibynadwy, gwydn, hyblyg a rhagweithiol.
- Gallu arwain Maes Dysgu a Phrofia yn dymunol.
Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y
Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.
Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.
Sylwer nad yw'r awdurdod yn rhoi ffurflenni cais bellach, nac yn derbyn CVs.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio
Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English