MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Wat's Dyke

Garden Village

Wrecsam

LL11 2TE

01978 355731

Mrs Fay Green, Pennaeth

Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 2

8.45am- 3.00pm [ 3 diwrnod yr wythnos] a 8.45am - 1.30pm [ 2 ddiwrnod yr wythnos]

G04 - £14, 575 - £14,819

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I ddechrau ym Medi 2022

Mae llywodraethwr Ysgol Gynradd Clawdd Wat yn dymuno penodi cymhorthydd gweinyddol profiadol. Rydym yn edrych am unigolyn angerddol a brwdfrydig i weithio yn 'hwb' ein hysgol i gefnogi ein cymuned ysgol, o dan reolaeth Rheolwr Busnes yr Ysgol.

Swydd mewn swyddfa brysur iawn yw hon, felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod yn rhagweithiol gan feddu ar nifer o sgiliau, gydag agwedd gadarnhaol ac sy'n gallu gweithio mewn tîm yn ogystal ag ar ben eu hunain. Mae gallu i ddefnyddio mentergarwch a blaenoriaethu gwaith i fodloni terfynau amser yn hanfodol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:-

Yn gynnes, croesawgar ac yn hyrwyddo perthnasau cadarnhaol gyda budd-ddeiliad yr ysgol.

Sgiliau cyfathrebu ardderchog a gallu dangos sgiliau trin pobl da a gwytnwch.

Sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG cryf ar draws amrywiaeth o becynnau meddalwedd.

Cyflawni dyletswyddau yn y dderbynfa, ateb galwadau ffôn, ymholiadau wyneb yn wyneb a chroesawu ymwelwyr i'r ysgol.

Darparu cymorth gweinyddol i staff gan gynnwys cymryd cofnodion a theipio, ymateb i negeseuon e-bost, llungopïo, casglu a chofnodi arian.

Cefnogi a chynnal Systemau Gwybodaeth Rheoli yr ysgol

Byddai profiad o weithio mewn lleoliad tebyg a gwybodaeth am SIMS yn fanteisiol i'ch cais.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r ysgol ar y rhif uchod.

I wneud cais: lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais PDF sydd ar gael ar y wefan.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod

Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn ysgol (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2024, am hanner dydd.

CYFWELIADAU: Yr wythnos yn dechrau 15 Gorffennaf 2024