MANYLION
- Lleoliad: Carmarthenshire,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,500 - £24,294
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £23,500 - £24,294
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 528
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol y Fro
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Rhan-amser
Dyddiad gorffen y contract: 31 Awst 2025
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd D
Cyflog: £23,500 - £24,294
Cyfradd yr awr: £12.18 - £12.59
Oriau Contract: 5
Dewch i ymuno â'n tîm
Gwahoddir ceisiadau gan y Pennaeth (Dros Dro) a'r Corff Llywodraethu yr ysgol hapus, gofalgar a chartrefol hon am Ofalwr dros dro, am flwyddyn i gychwyn. Byddwch yn gyfrifol am gynnal glendid a diogelwch ein hysgol. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sylw cryf i fanylion, sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i weithio'n annibynnol.
Bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:
- Cynnal glendid safle'r ysgol, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, coridorau a meysydd chwarae.
- Sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel drwy fonitro mynediad i'r safle a rhoi gwybod am unrhyw faterion neu bryderon.
- Cefnogi tîm gweithrediadau'r ysgol gyda gwahanol dasgau a phrosiectau.
- Datblygu a chynnal perthynas dda gyda disgyblion, staff a rhieni.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch a pholisïau'r ysgol.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Mr Thomas Gullick (Pennaeth Dros Dro) ar 01269 870573 neu admin@yfro.ysgolccc.cymru.
Disgrifiad Swydd: 001515.pdf - 164KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 12 Gorffennaf 2024
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 07/07/2024, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.