MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £60,000.00 - £65,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth -L10-14 £59,990 - £66,148 y flwyddyn
YSGOL Y CREUDDYNYsgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11-18 oed 665 o ddisgyblion
Yn eisiau erbyn Ionawr 2025
(Neu cyn gynted â phosib)
PENNAETH CYNORTHWYOL
(Cyfrifoldeb : Addysgu a Dysgu a Chwricwlwm)
Cyflog: L10-14 £59,990 - £66,148 y flwyddyn
Oriau: Llawn Amser
Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn blaengar, uchelgeisiol, proffesiynol a gweithgar sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol effeithiol ac yn ymroddedig i gynnig yr addysg orau i'r disgyblion, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at groesawu Pennaeth Cynorthwyol newydd i gyfoethogi profiadau dysgu pobl ifanc Conwy.
Ffurflen gais a manylion ychwanegol am y swydd i'w cael gan Mrs Bethan Oliver-Jones, Ysgol y Creuddyn, Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Llandudno, LL30 3LB ac i'w dychwelyd i'r ysgol .
Rhif Ffôn: 01492 544344; E-bost: bursar@creuddyn.conwy.sch.uk
DYDDIAD CAU AR GYFER Y SWYDD:
4.00yh Dydd Llun 8 fed o Orffennaf 2024
(Bwriedir cynnal cyfweliadau wythnos 15 fed o Orffennaf 2024)
Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.