MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes CA2 Adnodd Dysgu Parhaol - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon a Lwfans AAA £2,584

YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn LL29 9LL

Ffôn: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau erbyn mis Medi 2024

Athro/Athrawes CA2 Adnodd Dysgu Parhaol

Mae llywodraethwyr Ysgol Sŵn y Don yn dymuno penodi athro/athrawes CA2 brwdfrydig a hynod gymwys sydd â phrofiad o addysgu disgyblion sydd ag anawsterau dysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am yr Adnodd Dysgu CA2 yn yr ysgol. Byddant yn addysgu dosbarth bychan o blant ag anawsterau dysgu a ganfuwyd a'u cefnogi i integreiddio i'w hysgolion prif ffrwd. Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes deinamig sy'n gweithio'n dda fel aelod o dîm ac sy'n ymroddedig i weithio fel rhan o gymuned ysgol ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio ag athrawon eraill yn yr ysgol i gefnogi prosiectau a chynhwysiad ar draws yr ysgol gyfan. Cynigir cytundeb llawn amser parhaol.

Mae gallu addysgu a chyfathrebu'n effeithiol yn y

Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.

Oherwydd natur y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau gweithio.

Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i wneud cais ar-lein.

Sylwer nad yw'r awdurdod yn rhoi ffurflenni cais bellach, nac yn derbyn CVs.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577290

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio

Os na chewch glywed o fewn 3 wythnos o'r dyddiad cau, dylai ymgeiswyr gymryd nad

ydynt wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad ac felly ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth ysgrifenedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English