MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Robert Owen / Cedewain)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £24,294 i £25,119 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.59 i £13.01 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Robert Owen / Cedewain)
Swydd-ddisgrifiad
Swyddi Cynorthwywyr Addysgu Lefel 2 x 2

Mae angen Cynorthwywyr Addysg Anghenion Addysgol Arbennig arnom ni.

Mae Ysgol Robert Owen / Cedewain yn ysgol arbennig sy'n gwneud enw i'w hun yn y Drenewydd, Powys. Cyn bo hir byddwn yn yn symud i gyfleuster pwrpasol o'r radd flaenaf i'r 21 ganrif. Rydym ni'n chwilio am Gynorthwywr Addysgu AAY grŵp / Un i Un i ymuno â'r ysgol yn llawn amser. Bydd y rolau yn cynnwys gweithio mewn grwpiau dosbarth gydag un ai grwpiau bach a / neu 1-1. Mae ein hysgol yn arlwyo ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dwys, difrifol a chymhleth, lawer ohonynt ar y Sbectrwm Awtistig.

Ydych chi'n angerddol dros fod yn Gynorthwyydd Addysgu?

Ydych chi'n mwynhau cefnogi a datblygu plant sydd ag anghenion cymhleth?

Bydd y canlynol gan y Cynorthwyydd Addysgu llwyddiannus:
  • NVQ level 2 cymwysedig a/neu o leiaf 6 mis o brofiad o weithio gyda phobl ifanc ag ADY.
  • TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg neu Fathemateg neu gyfwerth.
  • Personoliaeth tawel, amyneddgar a gofalgar
  • Sgiliau cyfathrebu a TG da
  • Dealltwriaeth dda o Ganllawiau Diogelu ac Amddiffyn Plant
  • Profiad o weithio gyda myfyrwyr i roi cymorth iddynt yn eu haddysg
Bydd angen gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar yr ymgeisydd llwyddiannus, gwiriadau adnabod a bydd yn ofynnol darparu dau eirda proffesiynol da, o leiaf.

Byddwch chi'n derbyn y canlynol:
  • Cyfraddau cyflog gwych
  • Gweithio mewn amgylchedd sy'n rhoi boddhad
  • Cymorth a datblygiad proffesiynol rhagorol
Os ydych chi'n meddwl taw chi yw'r person cywir ar gyfer y rol hwn, yna edrychwn ymlaen at glywed gennych. Gwnewch eich cais trwy wefan CSP.

www.robertowen.powys.sch.uk [email protected]

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.