MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Nationwide,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £0.00 - £10,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Hyfforddwr dan Hyfforddiant Addysg Awyr Agored x2
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £2,458 y flwyddyn (G01 scp3).
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Awyr Agored Nant BH a Phentrellyncymer• A ydych dros 18?
• Diddordeb mewn gyrfa mewn Addysg Awyr Agored ?
• Mwynhau'r sialens o weithio gyda phobl ifanc?
• Diddordeb mewn un neu fwy gweithgaredd addysg awyr agored ?
Os oes, gallai cyfnod fel hyfforddwr dan hyfforddiant yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant BH neu Bentrellyncymer fod yn gyfle i gychwyn gyrfa.
Ar ddechrau mis Mehefin neu Medi 2024 byddwn yn dymuno penodi hyfforddwr dan hyfforddiant i weithio gyda staff ein timau awyr agored yn y ddwy ganolfan. Os gallwch ddechrau ym mis Mehefin 2024, mae'n bosibl y byddwych yn parhau yn eich swydd am y flwyddyn gyfam o mis Medi. Byddwn yn sicrhau y byddwch yn cael hyfforddiant i safon corff llywodraethol cenedlaethol a / neu asesiad yn y gweithgareddau perthnasol, ynghyd â chanllawiau i wella eich sgiliau. Ar ddiwedd y flwyddyn byddwch wedi ennill profiad gwerthfawr mewn addysg awyr agored a gwybodaeth dda am leoedd yng ngogledd Cymru ac yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa.
Yn ystod y flwyddyn cewch lety mewn bwthyn, bwyd, incwm misol bychan, a'r mwyafrif o'r gwyliau ysgol i ffwrdd. Os ydych chi wedi ennill digon o brofiad a chymwysterau fe fydd cyfle o bosib erbyn diwedd y flwyddyn i weithio fel hyfforddwr yn y ganolfan ar gyflog llawn. Disgwyliwn i chi ymddwyn mewn modd proffesiynol a chymryd pob cyfle i fanteisio ar y flwyddyn.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â jenny.wilson@conwy.gov.uk neu NWOES@conwy.gov.uk
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae angen cofrestriad CGA cyn decrau gweithio.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny Wilson, Pennaeth y Ganolfan, 01492 640735 Jenny.wilson@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.