MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll

Ffordd Parc Borras

Wrecsam

LL12 7TH

Pennaeth: Mrs Rhiannon James

headteacher@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2

Graddfa G04 £12.18 - 12.38 yr awr

£7,950 - £8,083 y flwyddyn

15 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:50 - 11:50)

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I ddechrau Medi'r 1af 2024. Contract Blwyddyn yn y lle cyntaf.

Mae Ysgol Llan-y-pwll yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm croesawgar ac i weithio yn un o'n dosbarthiadau plant 3 i 8. Os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd cefnogol, hapus ac arloesol; Ysgol Llan-y-pwll, ysgol cyfrwng Cymraeg diweddaraf Wrecsam yw'r lle i chi!

Swydd Cymhorthydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, egnïol, hwyliog, cefnogol, yn fodel rôl dda ac yn rhugl yn y Gymraeg. Byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol yr athro/athrawes ddosbarth ac yn cefnogi mynediad y disgyblion i addysg, gan gynnwys :-

• Cynorthwyo gyda gosod yr amgylchedd dosbarth

• Cynorthwyo grwpiau o ddisgyblion mewn gwaith grŵp

• Cefnogi dysgwyr yn yr ardaloedd ac wrth iddynt gwblhau heriau

• Cefnogi unigolion lle bo angen

• Rhannu gwybodaeth am gynnydd y disgyblion gyda'r athro dosbarth

• Dilyn cyfarwyddyd gan yr athro ddosbarth a chadw at drefniadau'r ysgol e.e. rheoli ymddygiad

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar headteacher@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk neu 01978 594101

ANFONWCH Y FFURFLENNI CAIS YN ÔL WEDI EU LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn Ysgol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

This is an advertisement for a Level 2 Teaching Assistant at a Welsh Medium School in Wrexham for which the ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Dyddiad cau: Dydd Gwener, Gorffennaf 5ed