MANYLION
  • Lleoliad: Chepstow, Monmouthshire, NP16 5LR
  • Testun: Glanhawr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £22,366 - £22,737
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf, 2024 5:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Glanhau a Hylendid - Ysgol Cas-gwent

Cyngor Sir Fynwy
Dymunwn lenwi'r swydd wag ddilynol yn ardal Cas-Gwent.

Bydd y dyletswyddau yn cynnwys sicrhau y caiff yr adeilad i gadw i lefel uchel o hylendid a glanweithdra.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud tasgau glanhau megis golchi lloriau a waliau, ysgubo, defnyddio peiriant sugno llwch, tynnu llwch a gwagu biniau sbwriel.

Pwrpas y rôl:-
Sicrhau y caiff yr adeilad ei gynnal i lefel uchel o hylendid a glanweithdra.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud tasgau glanhau megis golchi lloriau a waliau, ysgubo, defnyddio peiriant sugno llwch, tynnu llwch a gwagu biniau sbwriel

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl:-

Sicrhau cynnal amgylchedd glân ac ymarferol sy'n hwyluso cynnal busnes y Cyngor mewn modd effeithlon.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Cwblhau tasgau glanhau golchi lloriau a waliau, ysgubo, gwagu biniau sbwriel, polisio a thynnu llwch.

• Glanhau ystafelloedd ymolchi.

• Gweithredu peiriannau sugno llwch a pholisio/sgrwbio yn ddiogel.

• Sicrhau y cedwir stoc ddigonol o ddeunyddiau glanhau.

• Hysbysu'r goruchwyliwr am bob nam ar offer glanhau.

• Sicrhau y caiff cemegolion eu defnyddio'n gywir bob amser.

• Gweithio fel aelod o Uned Cyfleusterau Sir Fynwy ar unrhyw safle.

• Dilyn unrhyw hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio ag unrhyw ofynion a amlinellir gan Lawlyfr Gweithdrefn Ansawdd Uned Cyfleusterau Sir Fynwy yng nghyswllt safonau ansawdd.

• Cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch, fel y'u nodir gan yr awdurdod i sicrhau eu diogelwch eu hunain ac eraill.

• Cydymffurfio gydag egwyddorion ac ymarfer cyfle cyfartal fel y'u nodir ym mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

Dyma’r hyn y mae modd i ni ddarparu i chi:-
• Cyfradd wych o gyflog
• Gweithio yn ystod term ysgol yn unig
• Pensiwn Llywodraeth Leol
• Hyfforddiant
• Gwaith tîm