MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: TPS \/ TUS
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: TPS \/ TUS
Annwyl Ddarpar YmgeisyddDiolch am ddangos diddordeb mewn ymgeisio am swydd yr athro Saesneg yn Ysgol Abersychan. Mae hon yn swydd bwysig ar gyfer ein hysgol, wrth i ni anelu at wella ansawdd y ddarpariaeth a'r safonau yn y maes Saesneg ymhellach. Cafodd ei werthuso'n ddiweddar gan Estyn fel un o gryfderau Ysgol Abersychan. Yn yr Adran Saesneg, mae gennym athrawon cadarn a byddech yn aelod o dîm angerddol. Mae Arweinydd sefydledig y Cwricwlwm yn arloesol ac yn flaengar, a bob amser yn ymdrechu i ddatblygu'r cwricwlwm Saesneg.
Mae Ysgol Abersychan yn ysgol gyfun i ddisgyblion rhwng 11-16 oed, ac mae'n sicrhau bod plant o bob gallu yn cyflawni eu potensial. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 740 o fyfyrwyr, 46 athro a 56 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae gan 32% o fyfyrwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a dewis helaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych, sy'n gefnogol dros ben wrth sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysg orau bosibl. Mae'r ysgol wedi cael canmoliaeth eang am wneud gwelliannau sylweddol o ran reoli ymddygiad, ac mae ein ffocws ar sicrhau'r safonau uchaf trwy ddarpariaeth ragorol.
Mae'r adran Saesneg yn Ysgol Abersychan yn dîm llwyddiannus, gweithgar a deinamig sy'n rhannu cyd-weledigaeth i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysgu a'r dysgu o'r ansawdd uchaf er mwyn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae gan yr adran adnoddau da, ac adnoddau addysgu digidol, gan gynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol, camerâu dogfennau a Chromebooks. Atgyfnerthir y ddarpariaeth Seasneg gan ddiwylliant darllen cryf a chynllun dysgu heriol sy'n cynnwys adnoddau a gwersi wedi'u cynllunio'n dda iawn.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn neilltuol sydd â'r egni, yr ysgogiad, y gwydnwch a'r ymrwymiad i ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol hon, ar ein taith i wella'r ysgol. Os ydych chi'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig wrth wireddu uchelgeisiau yr ysgol, os oes gennych gred ddi-baid y gall pob myfyriwr gyflawni, waeth beth yw ei gefndir a'i allu, byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu ag Arweinydd y Cwricwlwm, Louise.Bruton@abersychanschool.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon neu i drefnu i ymweld âr ysgol. Rhaid llenwi'r ffurflen gais trwy blatfform yr Awdurdod Lleol sydd wedi'i gysylltu âr hysbyseb swydd ar eteach.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal gyfer pob ymgeisydd, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol.Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed . Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechui fod yn gyflogwrteg, cefnogolac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyli bob gweithiwr, cyflogedigneu ddi-dâl, rannu'r ym rwymiadhwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.