MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rural,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,296 y flwyddyn pro rata (G06)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Hyfforddwr Addysg Awyr Agored Ar Ei Liwt ei Hun x5
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £30,296 y flwyddyn pro rata (G06)
Lleoliad gwaith: Canolfannau Nant BH a PhentrellyncymerMae gan Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru ddwy ganolfan breswyl, Nant BH a Phentrellyncymer, ac mae'n cynnig darpariaeth ddydd ac allgymorth i ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a grwpiau eraill ar draws chwe sir Gogledd Cymru hefyd. I alluogi darparu cyrsiau yn ddiogel yn y ddwy Ganolfan, mae staff cyflewni yn ogystal â'r hyfforddwyr dan gontract angen darparu ystod lawn o weithgareddau yn y ddwy Ganolfan.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth dda o, ac ymrwymiad i ran addysg awyr agored o fewn dysgu gydol oes. Dylid meddu amrywiaeth o wobrau CLlC, ynghyd âr gallu i yrru bws mini.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Mae angen cofrestriad CGA cyn decrau gweithio.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Jenny Wilson, Pennaeth y Canolfannau (01492 640735 / Jenny.wilson@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.