MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes CA2 (Dros Gyfnod Mamolaeth)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Madras

Ffordd Owrtyn

Llannerch Banna

Wrecsam LL13 0LU

Ffôn: 01978 710419

Pennaeth: Mrs K. Macey

Athro/Athrawes CA2 0.5

Dros dro 01/09/2024 - 14/06/2025 (Dros Gyfnod Mamolaeth)

Mae Disgyblion, Staff a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd a Gynorthwyir Madras yn awyddus i benodi Athro/Athrawes cyfnod allweddol 2 llawn egni a chreadigrwydd i ymuno â'n tîm o athrawon a chymhorthwyr dysgu ymroddedig o fis Medi ar gontract tymor penodol o un flwyddyn ar 0.5.

Mae ein hysgol yn un hapus a gofalgar lle mae safonau uchel o gyflawniad yn cael eu cyflawni drwy'r profiadau dysgu ac addysgu cyffrous a chreadigol rydym yn eu cynnig i'n plant. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos menter, creadigrwydd a gallu dod â dysgu'n fyw i'r disgyblion drwy addysgu cyffrous, heriol a brwdfrydig.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu harsylwi yn rhoi gwers a byddant yn cael cyfarfod â Chyngor yr Ysgol cyn y cyfweliad.

I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Mrs K. Macey mailbox@madras-pri.wrexham.sch.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

mailbox@madras-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.