MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPR 2
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPR 2
Ynglŷn â'r RôlAthro / Athrawes
Llawn Amser - Prif Raddfa Gyflog -Cyfnod Mamolaeth
Dyddiad Cychwyn: Medi 1af 2026
Dyddiad Cau:05/05/2026
Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Bro Alun wedi'i lleoli ym mhentref Gwersyllt ar gyrion tref Wrecsam. Byddwch yn ymuno â thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy'n gweithio'n agos i sicrhau cyfleoedd cyfoethog i'n disgyblion mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.
Croesawn geisiadau gan athrawon newydd gymhwyso neu athrawon profiadol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu a'r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu os am ymweld â'r ysgol cysylltwch â'r Pennaeth.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Amdanom Ni
Ysgol Bro Alun
Ein gweledigaeth ym Mro Alun yw darparu ysgol sy'n datblygu hunan hyder a hunan ddisgyblaeth y disgyblion mewn awyrgylch ofalgar, cynhaliol, hapus a diogel. Rydym yn ymrwymedig i fynnu'r safonau uchaf posib gyda pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Yn greiddiol i hyn mae'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
Our vision at Bro Alun is to provide a school that develops the pupils' self-confidence and self-discipline in a caring, supportive, happy and safe environment. We are committed to insisting the highest standards possible with each pupil achieving their full potential. Underpinning all of this is the Welsh language and Welsh culture.