MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd Oruchwylydd - Coedcae

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £25,265 - £28,427

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 466

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Adran: Arlwyo

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol - Yn Ystod y Tymor yn Unig

Lleoliad: Llanelli

Gradd: Gradd E +4%

Cyflog: £25,265 - £28,427

Cyfradd yr awr: £13.09 - £14.73

Oriau Contract: 35

Dewch i ymuno â'n tîm
Rydym yn chwilio am unigolyn i gydlynu a rhedeg cegin brysur/effeithlon gan ddangos safonau rhagorol a sgiliau arwain.

Mae'r swydd hon am 35 awr yr wythnos / 7 awr y dydd. Y gyfradd fesul awr yw £13.09 - £14.73 .

Yr oriau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig (38 wythnos), sy'n ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a rolau eraill rydym yn eu cynnig. Rydym yn cynnig cynllun cyflog 'blynyddol' fel bod ein staff sy'n gweithio yn ystod y tymor yn unig yn derbyn cyflog dros 52 wythnos. Os ydych yn gobeithio dechrau gyrfa mewn arlwyo neu hyd yn oed yn dymuno newid eich gyrfa, gallai'r rôl hon eich helpu i ddechrau ar y llwybr hwnnw.

Yr Ymgeisydd - Mae arnom angen unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sy'n meddu ar y canlynol: -
  • Y gallu i gynnal cegin effeithlon sy'n cynnwys paratoi a gweini prydau maethlon a blasus.
  • Profiad o gynnal safonau hylendid mewn ceginau.
  • Y gallu i ddarparu prydau amrywiol ar gyfer ystod eang o ddeietau arbennig.
  • Y gallu i feithrin perthnasoedd da gyda rhieni a phlant ar sail parch at y naill a'r llall.
  • Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i arwain tîm.
  • Sgiliau TG sylfaenol a'r gallu i gwblhau'r holl waith papur angenrheidiol wrth gynnal cegin effeithlon gan gynnwys archebu a rheoli stoc.

Bydd angen arnoch:
  • Agwedd gadarnhaol a'r parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
  • Tystysgrif hylendid bwyd a phrofiad blaenorol mewn rôl arlwyo neu letygarwch. Byddai hyn yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol.
  • Hyblygrwydd a'r parodrwydd i gynorthwyo â dyletswyddau eraill.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Kellie Balman - 07584 114650 - KBalman@sirgar.gov.uk

Disgrifiad Swydd: 000475.pdf - 143KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 03/07/2024, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd


Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.

Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.