MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPS \/ UPS with TLR2
Cyflog Prif Raddfa neu Uwch Raddfa gyda CAD2Cytundeb Parhaol
Mae Ysgol Panteg, ysgol gyfrwng Gymraeg ym Mhontypŵl, yn chwilio am arweinydd Cam Cynnydd gweithgar, strategol ac egnïol i fod yn athro neu athrawes frwdfrydig ac ysbrydoledig, i ledaenu gorwelion plant, adeiladu hyder disgyblion a helpu ni wireddu'r weledigaeth o fod yn ysgol rhagorol. Mae ein hysgol wedi'i rhannu'n dair adran ac mae gennym arweinwyr amryddawn - felly, rydym yn hysbysebu am arweinydd Cam Cynnydd 1, 2 neu 3 a byddwn yn gweithio i osod yr unigolyn lle mae ei ch/gryfderau.
Rhaid i'r ymgeiswyr:
- feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol;
- meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- meddu ar sgiliau digidol rhagorol;
- bod yn ymrwymedig i ddatblygu adran y Cam Cynnydd 3 er budd pob disgybl, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth achynhwysiant;
- bod yn ymrwymedig i hunan-welliant a welliant systemig;
- bod yn ymwybodol o'r canfyddiadau ac ymchwil diweddaraf yn y maes;
- bod yn ymrwymedig i gyd-weithio gydag ysgolion eraill er mwyn sicrhau yr arfer gorau posib;
- dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion;
- bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg;
- meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau fel rhan o'r Uwch Dîm Arwain.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae'r swydd hon yn amodol ar 'Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd' a phrotocolau recriwtio diogel Torfaen.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys i ddechrau ym mis Ionawr 2025. Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr. Matthew James Williamson-Dicken. matthew.williamson-dicken@torfaen.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r 5ed o Orffennaf, 2024 am 23:59 gyda chyfweliadau i'w dilyn.