MANYLION
  • Lleoliad: Cyfreithiol,
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Gosod Trydan CC/2603

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 - £47,331

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Gosod Trydan

Lleoliad: G lannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser

Cyflog: 30,620 - £47,331 Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Golofn Gyflog Uwch

Mae Coleg Cambria yn gyffrous i fod yn recriwtio Darlithydd mewn gosod trydanol i gyflwyno ein cyrsiau gosod trydanol yng Nglannau Dyfrdwy.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, dylai fod gennych brofiad a chymhwysedd y gellir eu profi mewn gosod trydan a lefel 3 o leiaf. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu arddangos empathi a dealltwriaeth am ystod o anawsterau/anableddau dysgu yn ogystal â dangos gwytnwch, hyblygrwydd, amynedd a synnwyr digrifwch.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n myfyrwyr. Yn ddelfrydol bydd gennych chi brofiad blaenorol neu brofiad personol helaeth o gynnig cymorth i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn dangos y gallu i adeiladu perthnasau gwaith da gyda dysgwyr a staff a'r gallu i reoli grwpiau o ddysgwyr. Mae angen dangos dull cadarnhaol o ymateb i ymddygiadau heriol.

Gofynion Hanfodol
  • Mae'n rhaid bod gennych gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5.
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Yn hunan-ysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun
  • Meddu ar ddyfarniad Dilysydd, neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
  • Meddu ar ddyfarniad Asesydd, neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
  • Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, e fallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Dull Gweithio Hyblyg - hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith i gefnogi a gwella llesiant gweithwyr

Gwyliau Hael - 59 gan gynnwys gŵyl y banc a'r cyfnod o gau dros y Nadolig (tua 10 diwrnod)

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog / Pensiwn Athrawon

Defnyddio hwb buddion cambria - mae hwn yn cynnwys arbedion cludiant, siopa, bwyta allan, iechyd a harddwch. Yn ogystal â chynllun beicio i'r gwaith

Mynediad at ystod eang o raglenni E-ddysgu a Datblygiad Proffesiynol - o dan y Cynllun Datblygu Cyflogwr, mae staff yn gymwys am ostyngiad ar unrhyw gwrs gwerth hyd at £195.

Aelodaeth ratach i ystafelloedd ffitrwydd

Cyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Triniaethau Harddwch a Thrin Gwallt Rhatach

Caffi a bwyty ar y safle

Darpariaeth Meithrinfa ar safle Glannau Dyfrdwy

Rhaglen Gymorth i Weithwyr yn ogystal â chymorthyddion cyntaf iechyd meddwl ar bob safle

Gwobrau Hir-wasanaeth