MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr) Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr) Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Darlithydd TG a delir fesul awrDisgrifiad o'r swydd Darlithydd TG a delir fesul awr
Noder, contract a delir fesul awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau nac oriau penodol – fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am unigolion brwdfrydig llawn cymhelliant i ddysgu ar sail tâl fesul awr yn yr Adran TG. Wrth weithio fel rhan o dîm, bydd gofyn i chi cynllunio, darparu ac yn asesu sesiynau theori ac ymarferol, felly bydd gennych brofiad helaeth o ddefnyddio blaengarwch, creadigrwydd a phenderfyniadau da wrth gyflwyno gweithgareddau mewn maes sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.
Gofynnwn i chi feddu ar ddealltwriaeth glir o safonau cymwysterau TG Addysg Bellach ac Addysg Uwch o Lefel 1 i Lefel 5, ynghyd ȃ phrofiad o raglennu a rhwydweithio a’r gallu i gyflwyno’r pwnc hwn hyd at Lefel 5. Bydd hefyd gennych radd berthnasol neu brofiad cyfatebol yn y diwydiant, ynghyd â thystysgrif TAR, neu fod yn barod i'w chael. G yda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, fe fyddwch yn frwd dros ysgogi pob dysgwr.
Os ydych yn credu y gallwch gyfrannu at ddysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych!
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.