MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Smarties yn Ysgol Fabanod Mount Street)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £25,979 i £27,334 y flwyddyn pro rata £13.46 i £14.16 yr awr

Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Smarties yn Ysgol Fabanod Mount Street)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 07/07/2024.

Arweinydd y Lleoliad ei angen/ei hangen ar gyfer Medi 2024

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn arweinydd ein lleoliad llwyddiannus a ffyniannus yn Ysgol Fabanod Mount Street (fydd yn newid i Ysgol Golwg Pen Y Fan ym mis Medi 2024). Ry'n ni am benodi Arweinydd y Lleoliad 3 oed+ brwdfrydig i ymuno â'n tîm gweithgar. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn lleoliad llwyddiannus gan gyflwyno darpariaeth Cyfnod Sylfaen cyfoethog sy'n seiliedig ar chwarae. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Gofal Plant Lefel 3 o leiaf. Mae'r swydd ar gyfer 30 awr . Mae'n rhaid i'r ymgeisydd cywir fod â chymwysterau addas (gweler manyleb yr unigolyn), meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cyfnod Sylfaen gyda phrofiad diweddar a pherthnasol yn ddymunol, gan gynnwys rôl arwain ac yn gallu gweithio fel aelod o'n tîm. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Croesewir ac anogir ymweliadau â'r ysgol. Ffoniwch swyddfa'r ysgol i drefnu apwyntiad.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.